Enillwch bàs diwrnod ar gyfer pedwar person i Goed y Brenin a £1,000

Ydych chi’n edrych am rhywbeth newydd i’w wneud? Neidiwch i mewn i fis Mawrth a’i wneud yn fis o brofiadau cyntaf! Os ydych am neidio ar fwrdd syrffio, mynd i’r afael â’r Wyddfa neu mynd i wylio’ch gêm fawr gyntaf, Cymru yw’r lle i wneud hyn i gyd.

Gyda chyfleoedd siopa gwych yng Nghaerdydd ac Abertawe, haf cyfan o chwaraeon yn Stadiwm y Mileniwm, heb anghofio traethau a dyffrynnoedd  Cymru, mae llawer iawn o hwyl yn aros amdanoch chi…jest casglwch eich ffrindiau at ei gilydd ac i ffwrdd â chi!

Y wobr yr wythnos hon ar eich cyfer chi a thri ffrindiau i fynd i ffwrdd, diolch i Croeso Cymru.

Ewch ar antur newydd gyda Croeso Cymru
mis Mawrth hwn
#GwyliauGartre

Enillwch bàs diwrnod ar gyfer pedwar person
i Goed y Brenin a llawer mwy

Mae gennym ni’r cyfle i chi a thri ffrind i ennill pàs diwrnod i Goed y Brenin ym Mharc Cenedlaethol Eryri. Yn gynwysedig yn eich gwobr mae llogi beiciau, arhosiad dwy noson ym mhentref prydferth Portmeirion AC ar ben hyn i gyd,byddwch hefyd yn ennill £1,000 o arian gwario a phedwar pâr o esgidiau 2015 Salomon Speed Cross 3 ar gyfer y grŵp gyda’r dewis rhwng esgidiau dynion neu menywod.

Ewch am dro adfywiol yn y goedwig ar hyd un o’u llwybrau hawdd (heb anghofio tynnu llawer o hunluniau, wrth gwrs). Neu neidiwch ar eich beiciau a phrofi eu llwybrau mynydd sydd o safon fyd-eang. Ar ôl yr holl ymarfer corff yna byddwch chi angen rhagor o egni, felly cofiwch aros yn y caffi a mwynhau diod gynnes a chacen (da’ch chi’n ei haeddu!).

Coed Y Brenin Salomon Speed Cross 3

Am gyfle i ennill, y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud ydi ateb y cwestiwn yn gywir a chofrestru’ch manylion cyn 23:59 ddydd Sul 5ed Ebrill. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis ar hap.

*This competition runs across all of Capital North Wales and
Capital Anglesey & Gwynedd with one prize


Does unman tebyg i Gymru
Antur i’r teulu cyfan gyda Croeso Cymru

GET THE ENGLISH VERSION HERE