Mynediad Cyflymach i Feddyginiaethau yng Nghymru

medicine

Mae cronfa triniaethau newydd Llywodraeth Cymru wedi agor, gydag £80 miliwn yn mynd i fod ar gael dros dymor y llywodraeth hon i gyflymu mynediad at y meddyginiaethau diweddaraf un, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething heddiw.

Bydd cyfanswm o £12 miliwn yn cael ei ryddhau i fyrddau iechyd ar unwaith, gyda £4 miliwn arall ar gael yn ddiweddarach. Bydd y gronfa'n darparu £16 miliwn o gymorth ychwanegol yn flynyddol i helpu byrddau iechyd Cymru i gyflymu mynediad at y meddyginiaethau sy'n cael eu hargymell gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Grwp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG).

Dan y system newydd, bydd gofyn i bob bwrdd iechyd yng Nghymru sicrhau bod meddyginiaethau sy'n cael eu hargymell gan NICE neu AWMSG ar gael o fewn deufis i ddyddiad cyhoeddi'r canllawiau terfynol, gan fyrhau'r cyfnod o draean.

Dywedodd Vaughan Gething: "Bydd ein cronfa triniaethau newydd yn helpu pobl sy'n dioddef o gyflyrau sy'n bygwth eu bywydau i gyrraedd at feddyginiaethau newydd arloesol yn gyflym.

"Mae meddyginiaethau a thriniaethau newydd yn cael eu canfod, eu datblygu a'u profi bron yn wythnosol, gan gynnig gobaith am iachâd neu well ansawdd bywyd i bobl ag amrywiol glefydau. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn helpu i gael gwared â'r ansicrwydd ynghylch cyllid ar gyfer triniaethau newydd yn y dyfodol, ac yn helpu'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i baratoi cynlluniau addas i gyflwyno meddyginiaethau newydd.

"Rydyn ni wedi ymrwymo o hyd i gyflwyno meddyginiaethau newydd ar sail tystiolaeth a chyngor arbenigol NICE ac AWMSG. Bydd sawl un o'r meddyginiaethau arloesol hyn yn cynnig cam sylweddol ymlaen i drin clefydau lle nad oedd fawr o opsiynau o'r blaen, neu hyd yn oed dim triniaeth o gwbl ac eithrio lleddfu'r symptomau.