Galw am ymchwil i babanod farw cyn geni

Teddy Bear At A Grave

Mae ymgyrchwyr yng Ngogledd Cymru yn galw am fwy o ymchwil i farwolaethau babanod cyn eu geni.

Hyn yn ol adroddiad newydd sy'n dangos fod dim ond un mewn pedwar o rhieni yn cael esboniad sut wnaethant colli ei plentyn. 

Yn dilyn adroddiad newydd gan elusen SANDS (Stillbirth and Neo-Natal Death Charity) mae Aelod Cynulliad Arfon Siân Gwenllian yn galw am fwy o ymchwil i farwolaethau cyn geni. 

Mae Elen Hughes o Aberdaron yn fam i dri o fechgyn, ond roedd gan ei tri mab bach frawd arall - Danial - fu farw pan roedd Elen drideg-saith wythnos a hanner yn feichiog.

"Roedd fy meichiogrwydd efo Danial yn gwbwl normal, ac yn cael ei weld fel un risg isel iawn. Roedd pob sgan yn iawn, ac roedd yr ysbyty yn awyddus imi ystyried geni adra. Ond un nos Wener do'n i ddim yn teimlo'n rhy dda - dim byd mawr, ond ddim yn teimlo fel fi fy hun. Mi ddeffrais i ar y bore Sadwrn, a theimlo nad oedd y babi'n symyd gymaint a'r arfer."

 "Es i ar fy union i Ysbyty Gwynedd a ges i'n rhoi ar beiriant i fonitro calon Danial. Roedd y curiad yno'n glir, felly roedd popeth i'w weld yn iawn. Mi ges i nghadw ar y peiriant am bedair awr, jest i wneud yn siwr, a mwya' sydyn mi roth y babi un symudiad mawr, ac fe gollodd y peiriant guriad ei galon o."

"Roedden ni'n meddwl mai wedi troi oddiwrth y peiriant oedd o, ond fe fethon nhw a ffendio ei galon o wedyn, ac roedd o wedi marw."

Mae Siân Gwenllian wedi cwrdd ag un fam sydd wedi bod drwy'r profiad anodd yma, er mwyn canfod beth yw ei barn hi am yr hyn y gellir ei wneud i leihau'r niferoedd o golledion, ac i godi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael i'r rhai sy'n colli plentyn cyn ei eni, neu yn fuan wedyn.

 

Mae hi'n dweud: 

"Dwi'n meddwl mai un o'r negeseuon pwysicaf y liciwn i ei throsglwyddo yw nad oes angen bod ofn mynd at fam sydd yn galaru, a chydymdeimlo efo hi. Dydi pobol ddim yn siwr beth i'w ddweud, ac felly yn dweud dim, a dyna'r peth gwaetha' wnewch chi, gan bod y fam wedyn yn teimlo'n fwy unig byth. Does dim rhaid dweud fawr ddim o gwbwl, dim ond cydnabod y golled, cydio yn llaw y fam - unrhywbeth, ond peidiwch a chroesi'r stryd ac osgoi."