Pryderon dros Fuddsoddiad i Gwmni yn Abertawe
Mae 'pryderon difrifol' gan grŵp o ACau dros benderfyniad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi dros £3m mewn cwmni yn Abertawe.
Roedd Kancoat wedi derbyn help ariannol cyn mynd i'r wal gwerth £3.4m, er fod gweision yn rhybuddio bod y cynllun busnes yn "wan".
Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn dweud bod polisïau ar ddiwydrwydd dyladwy wedi cael eu hanwybyddu cyn rhoi mwy o arian i'r cwmni.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi "gwneud llawer o newidiadau" ers yr achos ac wedi croesawu'r adroddiad.