Pledio Yn Euog I Wrthdrawiad Marwol
14 January 2019, 17:39 | Updated: 14 January 2019, 17:42
Bu farw Rebecca Edwards wedi'r gwrthdrawiad.
Mae gyrrwr ifanc wedi ei rhybuddio ei fod o'n wynebu dedfryd hir yn y carchar wedi iddo bledio'n euog i achosi marwolaeth dynes o Lanberis drwy yrru'n beryglus.
Yn ogystal â hynny mae Osian Hicks-Thomas o Griccieth wedi pledio'n euog i gyhuddiad ychwanegol o fod dan ddylanwad cocên.
Bydd o'n cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon ar y bedwaredd o Fis Chwefror.