Mwy o Bobl Hefo'r Ffliw yng Nghymru
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhybuddio pobl dros gynnydd sylweddol yn y nifer o bobl yn cael eu deiagnosio hefo'r ffliw.
Cafodd bron 800 eu deuagnosio hefo afiechydon tebyg i'r ffliw yng Nghymru dros gwyliau'r Nadolig.
Cafodd 195 o achosion o influenza eu recordio mewn ysbytai a 25 o achosion mewn wardiau gofal dwys.
Mae Dr. Richard Roberts yn dweud: "Disgwylir i feirws y ffliw lledu ar draws Cymru am chwech i wyth wythnos.
"Felly mae hi'n bwysig sicrhau bod pobl bregus yn derbyn pigiad mor fuan a phosib.
"Dydy hi ddim yn rhy hwyr i bobl derbyn triniaeth."