Eisteddfod arbrofol yn dod i ben

11 August 2018, 09:09 | Updated: 11 August 2018, 09:12

Eisteddfod letters

Credir fod oddeutu 150,000 o bobl wedi ymweld â'r Maes ym Mae Caerdydd.

Ashok Ahir sy'n gyfrifol am y pwyllgor a drefnodd yr Eisteddfod.

Mae o'n dweud ei fod yn hapus tu hwnt gydag ymateb y cyhoedd i'r Brifwyl eleni.

"Pan mae pobl sydd wedi datgan yn gyhoeddus dros y ddwy flynedd ddiwethaf na fydden nhw'n dod i Gaerdydd, neu nad oeddent yn sicr fod hyn am weithio, yn dweud wrthych chi eich bod wedi profi nhw'n anghywir - dyna'r feirniadaeth orau allwch chi gael."

Mae'r Brifwyl am ddod i Lanrwst yn 2019.