Ymgyrch Atal Gyrru ac Yfed
14 June 2017, 09:35 | Updated: 14 June 2017, 09:36
Mae ymgyrch targedu gyrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau drwy gydol mis Mehefin wedi gweld 52 arestiad yng Ngogledd Cymru hyd yma.
Mae ymgyrch targedu gyrru o dan ddylanwad alcohol a chyffuriau drwy gydol mis Mehefin wedi gweld 52 arestiad yng Ngogledd Cymru hyd yma.
Rhwng 1-13 Mehefin mae swyddogion wedi gwneud 29 arestiad wedi i yrwyr roi sampl positif neu wrthod rhoi prawf anadl ar wiriadau ochr ffordd ledled y rhanbarth. Mae hyn yn rhan o Ymgyrch Atal Gyrru o dan Ddylanwad Alcohol a Chyffuriau’r Haf
Mae 23 o bobl wedi’u harestio hefyd wedi methu prawf cyffuriau ochr ffordd.
Dywedodd Arolygydd Dave Cust o’r Uned Plismona Ffyrdd: “Dylai pobl fod yn ymwybodol ein bod â chynlluniau tactegol manwl i gynorthwyo’r ymgyrch hon. Mae’r rhain yn cynnwys targedu meysydd penodol yn dilyn gwybodaeth a roddwyd i ni gan aelodau o’r gymuned sy’n mynegi pryder.
"Mae’r haf yn amser mwynhau a digwyddiadau cymdeithasol fel barbeciws. Tra y buaswn yn annog pawb i gael amser da, mae’n bwysig ailadrodd ein neges allweddol. Os ydych yn yfed, peidiwch â gyrru ac os ydych yn gyrru, peidiwch ag yfed – mae mor syml â hynny!
“Mae gyrru wrth fod o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau ag effaith sylweddol ar bobl. Mae’r dinistr a achosir i deuluoedd yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn anfesuradwy.”
Arestiwyd dyn ym Mlaenau Ffestiniog fore ddoe wedi iddo gael ei stopio i ddechrau gan ei fod yn gyrru heb yswiriant. Methodd y prawf cyffuriau ochr ffordd wedi hynny ar ôl profi’n bositif am gocên. Atafaelwyd ei gerbyd, fe’i harestiwyd ac ers hynny wedi’i ryddhau gan ddisgwyl canlyniadau profion pellach.