Y Tlws yng Nghymru o'r Diwedd

21 April 2017, 10:18 | Updated: 21 April 2017, 10:20

Champions league 2017 ball

Mae Prif Wenidog Cymru, Carwyn Jones, a chyn-seren Cymru, Ian Rush, yn pigo fyny tlws Cynghrair y Pencampwyr bore 'ma o flaenllaw parêd o Gastell Caerdydd i Stadiwm y Principality nes ymlaen heddiw.

Bydd y tlws yn dechrau taith wedyn yn mynd o gwmpas pob ran o Gymru. Bydd y taith yn dechrau dydd Sadwrn 22il o Ebrill, gan ddechrau yn Abertawe.

Bydd y tlws yn symud nesaf i Ogledd Cymru a wedyn y Canolbarth, cyn gorffen y taith yng Nghaerdydd yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, sef hen ysgol Gareth Bale.

Dyma rhestr o'r llefydd yng Ngogledd Cymru lle bydd y tlws yn ymddangos:

Llun 24 Ebrill

14:00 – 19:00 Clwb Pêl-Droed Dinas Bangor, Bangor

Mawrth 25 Ebrill

10:30 – 13:30 Ysgol Y Gogarth, Llandudno

17:00 – 18:30 Clwb Pêl-Droed Llandudno, Llandudno

Mercher 26 Ebrill

10:00 – 13:00 Ysgol Ardudwy, Harlech

18:00 – 20:00 Clwb Pêl-Droed y Bala, Y Bala

Sadwrn 29 Ebrill

Trwy'r Dydd - Castell Biwmaris, Ynys Môn

Sul 30 Ebrill

11:00 – 17:00 Portmeirion

Llun 1 Mai

10:00 – 13:00 Clwb Pêl-Droed Porthmadog, Porthmadog

18:00 – 20:00 Clwb Pêl-Droed Cefn Druids, Wrecsam

Mawrth 2 Mai

10:00 – 13:00 Ysgol Maes Garmon ac Ysgol yr Alun, yr Wyddgrug