Trosglwyddiad Pwerau Peiriannau Betio

Betting Gambling Fixed Odds Betting Terminals

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru am dderbyn mwy o bwerau i reoli problemau o beiriannau betio 'fixed odds' ar ol i'r Blaid Lafur galw ar Lywodraeth San Steffan i'w drosglwyddo.

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu datganoli cyfrifoldeb am beiriannau lle mae'r arian sy'n cael ei fetio yn fwy na £10, nawr bod Mesur Cymru yn mynd drwy'r Senedd yn Llundain.

Mae hi'n ymddangos bod peiriannau fel hyn yn un o'r dulliau mwyaf caethiwus o gamblo.

Mae Wynford Ellis Owen o'r elusen gamblo The Living Room yn dweud: "Dwi'n credu bod gamblo y fersiwn perffaith o gaethiwed, gan ei fod hi'n effeithio nid yn unig yr unigolyn, ond teuluoedd cyfan hefyd."

"Mae Cymru hefo problem gamblo anferth, ac mae hi rhywbeth mae rhaid i Ltywodraeth Cymru cymryd o ddifrif."