Tri yn Marw mewn Gwrthdrawiad
27 October 2018, 12:17 | Updated: 27 October 2018, 12:19
Mae tri pherson wedi marw a thri eraill wedi'u hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiad ger Dinbych.
Fe ddigwyddodd ar gyrion y dref am oddeutu 7.30 yh nos Wener.
Cafodd tri pherson eu cyhoeddi'n farw ar y safle, a chafodd tri eraill eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Bu i un person arall dderbyn man anafiadau.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth yn ymwneud a'r digwyddiad gysylltu ag Uned Ffyrdd yr Heddlu ar 10, neu drwy sgwrs fwy dros y rhyngrwyd, gan ddefnyddio'r cyfeirnod W153175.