Trafodaethau Dros Reolau Streicio
Mae Bil newydd yn cael ei gyflwyno yn y cynulliad er mwyn ceisio gwrthdroi deddfau newydd sy'n caniatáu undebau i fynd ar streic.
Buasai'r Ddeddf Undebau Llafur yn golygu bod angen o leiaf hanner aelodau i bleidleisio ac o leiaf hanner ohonyn nhw i bleidleisio o blaid cerdded allan.
Mae'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford, yn dweud wrth tydi o ddim eisiau'r rheolau effeithio staff mewn ysgolion, y gwasanaeth iechyd neu cynghorau.
Mae Mr. Drakeford yn dweud: "Mae cyflogwyr yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn cefnogi'r ffordd yr ydym yn cyflwyno'r mesur yma.
"Maen nhw'n gweld mai dyma'r ffordd gywir i wneud pethau yng Nghymru hefyd."
Fe ddeudodd Mr. Drakeford hefyd bod Llywodraeth Cymru yn hyderus y bydden nhw'n ennill achos llys petai Llywodraeth Prydain yn herio gallu'r Cynulliad i ddeddfu.