Toriadau i Elusen Plant Sâl Cymru
Honnir bydd miloedd o deuluoedd yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan doriadau i elusen sy’n helpu teuluoedd hefo plant hynod sâl.
Yn 2015, cafodd grantiau eu cynnig gan y grwp Teuluoedd yn Gyntaf i dros 5,000 o gartrefi incwm isel i’w helpu prynu eitemau i’w plant fel teganau arbennig. Mae’r grwp yn helpu talu ar gyfer pethau fel teithiau a gwyliau.
Mae’r elusen yn cael eu buddsoddi gan Lywodraeth Cymru, sydd am gynnig £1.5m ar gyfer y tair mlynedd nesaf, sef cwymp sylweddol o’r £2.5m derbynnodd Teuluoedd yn Gyntaf y llynedd.
Mae Keith Bowen, cyfarwyddwyr Gofalwyr Cymru, yn dweud: “Mae aelodau’r elusen, rhieni sy’n edrych ar ôl plant sâl ledled Cymru, wedi bod yn siarad hefo ni am eu tristwch, y ffaith tydi nhw methu gwneud cais am arian yn bellach, a’r effaith bydd hyn yn cael ar eu plant a gweddill y teulu.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae nifer o grwpiau wedi gwneud cais am arian yn ddiweddar, a wnaeth Teuluoedd yn Gyntaf derbyn rhan fwya'r arian.