Teyrngedau Blwyddyn ar ôl Gwrthdrawiad

28 April 2017, 10:11 | Updated: 28 April 2017, 10:23

John Clift

Mae criwiau ambiwlans yng Ngogledd Cymru yn marcio blwyddyn ers gwrthdrawiad lle bu farw gyrrwr.

Roedd John Clift yn gyrru un o gerbydon y gwasanaeth adeg y gwrthdrawiad hefo ambiwlans arall ar yr A499ger y Ffôr, Pwllheli.

Cafodd dau o'i gydweithwyr eu hanafu'n ddifrifol yn y gwrthdrawiad, a bu farw John o drawiad ar ei galon, yn ôl cwest.

Mae mainc coffa am gael eu cyflwyno yng Ngorsaf Ambiwlans Pwllheli a bydd ambiwlans yn cael ei enwi ar ei ôl.

Mae teryngedau wedi cael eu talu i John, gyda nifer yn disgrifio fo fel person "poblogaidd a cyfeillgar."