Taith Baton y Gymanwlad trwy Gymru

Queen's Baton Relay Map

Mae'r Frenhines yn dechrau Ras Gyfnewid y Baton ar gyfer Gemau'r Gymanwlad yn 2018 heddiw.

Bydd y baton yn gwario pedwar o ddyddiau mis Medi eleni yn teithio trwy Gymru, gan ymweld a llefydd fel yr Wyddgrug, Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog. Bydd y baton yn teithio cyfanswm o 230,000 o kilometrau cyn gorffen ei daith yn Awstralia.

Mae Chris Jenkins, Prif Swyddog Gemau'r Gymanwlad yng Nghymru, yn dweud:

"Wrth i'r faton teithio trwy Gymru, y bwriad bydd i ddathlu ein hanes, diwylliant, iaith a golygfeydd. Ryden ni'n hynod falch i gyhoeddi taith y baton trwy Gymru."

Roedd y gemau yng Nghaerdydd yn 1958 y cyntaf i gynnal ras gyfnewid baton y Brenhines. Roedd y gemau yng Melbourne yn 2006 y cyntaf lle teithiodd y baton trwy bob un gwlad o fewn y Gymanwlad o flaenllaw'r gemau, ac mae'r traddodiad wedi cario ymlaen ers hynny.