Swyddi Tata i Gael eu Harbed
Mae undeb sy’n cynrychioli gweithwyr dur ym Mhort Talbot yn dweud eu bod nhw’n sicr bydd y grwp Tata yn dod i gytundeb heddiw gan sicrhau miloedd o swyddi a buddsoddiadau.
Mae’r dref yn Ne Cymru wedi bod llawn ansicrwydd ers cafodd y ffatri ei roi ar werth mis Mawrth.
Cychwynodd Llwyodraethau Cymru a San Steffan i gynnig cefnogaeth ariannol, ond mae cynllun pensiwn y cwmni wedi lleihau diddordeb prynwyr.
Credid bydd y cynlluniau yn sicrhau 4,500 o swyddi ac hefyd yr un maint o gynyrchiad dur.
Mae’r Cynghorydd Anthony Taylor wedi gweithio i’r diwydiant dur ers pedwar degawd, ac yn dweud: “Mae hi’n ddiwydiant hollbwysig i economi Prydain yn ogystal a gofal cenedlaethol. Mae rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan ymateb i’w addewidion rwan.”
Mae dur wedi cael ei gynhyrchu ym Mhort Talbot ers canrif, ac o ran y maint o waith, mae hi’r ffatri mwyaf o’i fath ym Mhrydain, ac wedi’i sefydlu fel calon y cymuned lleol.
Mae Tata yn cyflogi oddeutu 7,000 o weithwyr ledled Cymru.