Swyddi Newydd i Ardal Wrecsam
Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates heddiw ei fod wedi clustnodi £1m i sefydlu hyb busnes newydd yn Wrecsam i helpu i greu 100 o fusnesau newydd a chreu 260 o swyddi newydd dros y ddwy flynedd nesaf.
Caiff y peilot dwy flynedd ei gynnal gan Busnes Cymru mewn cydweithrediad ag ICE Cymru i gynnig cymorth cynhwysfawr i ddarpar entrepreneuriaid gyda’r nod o annog buddsoddwyr preifat i neilltuo o leiaf £1m i helpu’r entrepreneuriaid sy’n rhan o’r peilot.
Dywedodd Ken Skates:
“Rwy’n falch iawn cael cyhoeddi cyllid ar gyfer yr uned hybu busnes yn Wrecsam i harneisio, cefnogi ac annog y talentau entrepreneuraidd gwych a geir yn yr ardal.
“Mae arloesi ac entrepreneuriaeth yn sbardunau pwysig i’r economi ac rwyf am greu’r amgylchedd gorau ar gyfer entrepreneuriaid ledled y wlad a byddaf yn defnyddio’r peilot i’m helpu i benderfynu ar fy mlaenoriaethau economaidd yn y dyfodol.
“Er mwyn sicrhau eu llwyddiant, mae’n bwysig darparu lle, cymuned a chefnogaeth i gyw entrepreneuriaid ac rwy’n awyddus i ddatblygu’r seilwaith sydd gennym ledled Cymru ac ychwanegu ato.”
Bydd yr Hyb yn cynnig cymuned i entrepreneuriaid fydd yn cysylltu â’r ecosystem ehangach gan gynnwys Prifysgol Glyndŵr, Coleg Cambria, diwydiannau ac asiantaethau cymorth yn y rhanbarth.
Fe fydd i bob pwrpas yn rhoi ar waith y modelau rydym wedi’u sefydlu ledled Cymru ar gyfer hybu busnes gan ganolbwyntio ar ddarparu amgylchedd i helpu entrepreneuriaid i ddatblygu’u busnes.
Dywedodd Pennaeth a Chyd-sylfaenydd IEC Gareth I Jones:
“Rydym yn frwd dros ddechrau gweithio mwy â’r gymuned yn Wrecsam, a chyda phartneriaid yn Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru, i helpu unrhyw un sydd â syniad ar gyfer busnes, waeth pa mor fawr neu fach, i gymryd y camau positif tuag at lansio’i fsunes ei hun.”
Caiff yr Hyb ei ddarparu trwy gonsortiwm Busnes Cymru – sy’n derbyn nawdd ariannol gan yr UE – mewn cydweithrediad ag ICE o Gaerffili sydd â phedair blynedd o brofiad o redeg uned hybu busnes lwyddiannus.
Bydd yn darparu amgylchedd gwaith cytûn, cyngor busnes, gweithdai a mwy o gyfleoedd a heriau i ysbrydoli cyw entrepreneuriaid i ddatblygu cwmnïau cadarn a llwyddiannus.
Bydd yn rhoi cymorth i fasnachu’n rhyngwladol, cyngor busnes o ansawdd uchel, cyfleoedd rhyngweithio rhwng cwmnïau ac unigolion a chymorth mentora a hyfforddi i entrepreneuriaid.