Rhybudd gan Ambiwlans Awyr Cymru
Mae pennaeth Ambiwlans Awyr Cymru wedi condemio pobl sy’n pwyntio laseri tuag at hofrenyddion.
Daw hyn ar ôl cafodd meddyg ei ddallu gan laser wrth deithio mewn hofrennydd uwchben Abertawe.
Roedd y hofrennydd ar alwad brys ar Noson Tân Gwyllt.
Mae Prif Weithredwr Ambiwlans Awyr Cymru, Angela Hughes, yn dweud: “Mae’n anghredadwy bod rhywun yn credu mae hi’n beth clyfar i’w wneud. Triodd rhywun yn fwriadol i anablu’r hofrennydd.”
Capten Grant Elgar oedd y peilot adeg y digwyddiad ac wedi dweud son wrth Capital am y peryglon gwirioneddol o dargedu hofrenyddion hefo laseri.
“Roedden ni’n hynod uchel ar y pryd ac yn teithio 140mya, a chafon ni ein tracio gan y laser am oddeutu 10 eiliad. Os tydi’r peilot methu gweld, nid oes unrhywle saff iddo glanio’r hofrennydd.”
Mae pobl sy’n euog o beryglu peiriannau awyr hefo laseri yn gallu gwynebu cosb gwerth £5,000 a chymaint a phum mlynedd dan glo.