Platfform Newydd i'r Brifddinas
Mae platfform newydd wedi agor yng ngorsaf rheilffordd Caerdydd Canolog i helpu lleihau gorlawnder.
Mae platfform 8 uwchben mynedfa ochr de'r orsaf, ac yn rhan o brosiect gwerth £300m i foderneiddio y rhelffyrdd rhwng Caerdydd a'r cymoedd.
Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gwaith i wella'r traciau a system arwyddo o gwmpas Gorsaf Caerdydd Canolog.
Mae Christina Irwin yn dweud ar ran Network Rail Wales:
"Mae'r platfform newydd yn rhan o gynllyn enfawr i ail-fodelu a moderneiddio y rheilffyrdd yn Ne Cymru. Bydd mwy o wasanaethau yn gallu gweithredu o ganlyniad.
"Hoffwn diolch y cyhoedd a theithwyr am eu dealltwriaeth ac amynedd."