Mwy Yn Ffonio'r Samariaid
MAe'r 'Samaritans' yn dweud bod rhywun yng Nghymru wedi cysylltu gyda'u llinell gymorth bob tri munud y llynedd.
Mae'r elusen wedi lansio adroddiad bore 'ma, gan amlinellu'r gwaith y mae pob un o'i naw cangen yma yn gwneud.
Yn ôl y ffigyrau diweddara', bu i 161,170 gysylltu.
Tu allan i'r Senedd fore 'ma, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford:
" Rydym eisiau i bobl teimlo eu bod nhw'n gallu cefnogi'u ffrindiau, aelodau'r teulu, a chydweithwyr sydd, am amryw o resymau, mewn risg o hunanladdiad.
"Mae cyfrifoldeb arnom fel unigolion, cydweithwyr a ffrindiau, i wrando ar a chefnogi'r rhai sy'n agos atom. "
Ynghyd ag adroddiad heddiw, mae'r Samariaid wedi rhyddhau ffigyrau ynglyn â'r nifer o wirfoddolwyr.
Yng Nghymru, mae yna 691, hynny allan o 21,200 ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.
Er i'r nifer o wirfoddolwyr gyrraedd y ffigwr uchaf mewn 10 mlynedd, mae'r nifer o alwadau sy'n cael eu hateb ar ei lefel uchaf mewn pum mlynedd.
Mae Sarah Stone o'r elusen yn dweud:
"Rhaid diolch i'n gwirfoddolwyr; na fuasai 'Samaritans' yn bodoli hebddynt".