Llofruddiaeth yn y Rhyl
3 May 2017, 11:15
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi bod yn ymchwilio marwolaeth Amarjeet Singh-Bhakar a oedd yn 37 oed. Roedd hyn o ganlyniad anaf trywaniad angheuol yn dilyn digwyddiad yn ystod oriau mân Ddydd Sul 30 Ebrill 2017.
O ganlyniad i’r ymchwiliad hwn ac mewn ymgynghoriad â Gwasanaeth Erlyn y Goron, mae dau lanc lleol wedi’u cyhuddo heno o lofruddio Amarjeet. Mae un llanc wedi’i gyhuddo hefyd o glwyfo dyn arall. Mae’r ddau lanc wedi’u cadw yn y ddalfa wrth aros i ymddangos yn llys Wrecsam bore yfory (Dydd Mercher 3 Mai).
Mae tri dyn arall o ardal Y Rhyl wedi’u rhyddhau o dan ymchwiliad wrth aros diwedd yr ymchwiliad.
At hyn, mae pum dyn o ardal Manceinion Fwyaf wedi’u cyhuddo o anrhefn dreisgar mewn perthynas â’r digwyddiad. Maent wedi’u cadw yn y ddalfa wrth aros i ymddangos yn llys Wrecsam bore yfory.
Dywedodd Ditectif Arolygydd Gary Kelly: “Mae gwaith sylweddol eto i’w wneud ac nid yw’r ymchwiliad ar ben o bell ffordd. Mae ein tîm o swyddogion ymroddedig yn mynd ar bob trywydd. Rydym yn parhau i fod yn feddwl agored o ran y cymhelliad a arweiniodd at y ffrwgwd hwn. Rydym yn parhau i geisio cymorth y cyhoedd o ran y mater hwn.
“Rydym yn ymwybodol fod yr achos hwn wedi cael effaith sylweddol ar y gymuned. Hoffwn fachu ar y cyfle hwn i dawelu meddwl y cyhoedd fod adnoddau ychwanegol wedi’u gosod yn ardal Y Rhyl wrth i’r ymchwiliad barhau. Yn anffodus mae’r digwyddiad hwn yn arddangos sut all meddu cyllell ddwysáu at ganlyniadau angheuol.”