Heddlu i daclo camdrin plant ar-lein
7 November 2016, 09:20 | Updated: 7 November 2016, 10:01
Fydd bob un o'r pedwar llu yng Nghymru yn cymryd rhan yn Operation Net Safe, gyda'r tîm o heddweision yn edrych am bobl sy'n rhannu lluniau neu fideos anweddus o blant.
Mae wedi bod 19 ymchwiliadau gyda 6 o bobl wedi'i harestio ers iddyn nhw ddechrau.
Rhybuddiodd y Dirprwy Brif Gwnstabl Jon Drake "Mae'r broblem yma yng Ngymru yn syfrdanol ac yn drist".
"Fydd Operation Net Safe yn rhoi cynnig inni barhau i daclo troseddau fel hyn gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i enwi troseddwyr ac i ddod a nhw o flaen eu gwell".
"Hoffwn bobl sy gael lluniau fel hyn neu sy'n rhannu delweddau anweddus ar lein i feddwl yn galed am beth roedden nhw'n wneud."
"Yn aml mae troseddwyr yn gallu twyllo'u hunain i feddwl nad oes dioddefwyr achos mae'r lluniau yn bodoli ar-lein yn barod a bod ganddyn nhw ddim cyswllt uniongyrchol â'r plant neu'r person ifanc. Ond cafodd y plant ei cham-drin er mwyn creu'r delweddau dan sylw.
"Mae cam-drin plant yn rhywiol yn anghyfreithlon a hefyd mae perchenogi lluniau o'r gamdriniaeth yn anghyfreithlon"
Fel rhan o'r gweithrediad gyda'r Heddlu mae pobl yn cael eu hannog i gysylltu â'r llinell cymorth gyfrinachol Stop it Now! sy'n gweithio ag troseddwr i daclo'u syniadau rhywiol.
Mae Donald Findlater, o'r elusen Lucy Faithful Foundation, yn dweud: "Mae 'na gannoedd a miloedd o bobl ar draws Cymru, yn enwedig dynion, sy'n edrych ar ddelweddau rhywiol o blant ar lein.
"Mae ymddygiad 'ma yn erbyn y gyfraith. Mae'n rhaid iddyn nhw atal yr ymddygiad anghyfreithlon ac yn dod i gael yr help maen nhw'n angen."