Cosbau Gwaeth i Yrrwyr ar eu Ffonau
O heddiw 'mlaen (Mawrth 1af), os gei di dy ddal yn defnyddio dy ffôn symudol wrth yrru gei di ddirwy o £200 a 6 pwynt ar dy drwydded.
Gwaeth byth os gei di dy ddal o fewn dwy flynedd o basio dy brawf gyrru, mi fyddi di'n golli dy drwydded yn gyfan gwbl.
Bydd Heddlu'r Gogledd yn cymryd rhan hefo swyddogion o'r uned plismona ffyrdd trwy gynnal patroliau hefo cerbydau wedi'u marcio i dargedu'r rhai sy'n torri'r gyfraith.
Fe ddeudodd yr Arolygydd, Dave Cust:
"Gan gynnwys gyrru ac yfed, goryrru, gyrru heb wregys a gyrru'n beryglus, mae defnyddio ffôn tu ôl i'r olwyn yn cael eu cysidro fel un o'r pump achos mwya cyffredin o wrthdrawiadau marwol ar y ffyrdd."