Cam sylweddol ar gyfer Wylfa Newydd
5 September 2018, 17:12 | Updated: 5 September 2018, 17:22
Mae Cynghorwyr wedi rhoi caniatâd i waith paratoi safle Wylfa Newydd.
Mae sêl bendith wedi ei roi i waith fyddai'n paratoi a chlirio'r safle ar gyfer datblygu'r orsaf bŵer niwclear.
Cafodd cais gan gwmni ynni Niwclear Horizon ei gymeradwyo ar gyfer y safle ar Ynys Môn.
Ond mae'r elusen Greenpeace wedi cychwyn camau cyfreithiol i atal hyn rhag digwydd oherwydd tydi'r prosiect heb dderbyn caniatâd gan arolygwyr cynllunio.