Bygythiadau i Iechyd Plant yng Nghymru
Mae'r Coleg Brenhinol i Bediatryddion a Iehcyd Plant yn rhybuddio dros y bwlch rhwng y cyfoethog a'r tlawd yng Nghymru a'r effaith mae hi'n gael ar blant Cymru.
Mae adroddiad yn dangos data sy'n cysidro afiechydon fel asthma, clefyd siwgr ac epilepsi.
Yn ol y ffigyrau, yng Nghymru:
- Mae 200,000 o blant yn byw mewn tlodi.
- Mae marwolaethau pobl ifanc 70% yn uwch ymhlith y pumed mwyaf tlawd.
- Mae 7% o fechgyn 15oed a 9% o ferched 15oed ysmygwyr arferol.
- Mae 13% o blant 15oed yn cyfaddef i yfed alcohol unwaith pob wythnos.
Mae Dr. Mair Parry yn dweud:
"Mae tlodi hefo effaith mawr ar iechyd plant a phobl ifanc. Mae mamau o gymunedau mwy amddifad yn fwy tebygol i ysmygu, yfed a bwyta'n wael yn ystod beichiogrwydd, sy'n gallu arwain tuag at bwysau geni isel a bygythiadau i iechyd plant."
Mae Llywodraeth Cymru wedi croesawu'r adroddiad ac am ddechrau cysidro'r ffigyrau.