Barnu Llywodraeth San Steffan eto

6 July 2018, 18:34 | Updated: 6 July 2018, 18:39

Airbus

Mae Prif Weithredwr Airbus yn honni nad oes gan Lywodraeth San Steffan syniad ynglyn a Brexit.
 
Yn ogystal a hynny mae Tom Enders wedi honni y bydd y broses yn niweidio Prydain.
 
Mae'r cwmni sy'n cyflogi saith fil o bobl yng Nghymru wedi bygwth gadael y Derynas Unedig os nad ydi Pyrdain yn cael cytundeb Brexit boddhaol.
 
Mae Theresa May wedi cyfarfod ei chabinet er mwyn darganfod y ffordd ora ar gyfer Brexit..