Apel Brexit yn mynd i'r Goruchaf Lys
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cael y cyfle i fynegi barn ynglŷn â'r frwydr gyfreithiol Brexit fel mae'r achos yn mynd i'r Goruchaf Llys.
Mae gweinidogion yn ceisio mynd yn erbyn penderfyniad yr Uchel Lys sy'n dweud fod rhaid y Prif Weinidog cael cymeradwyaeth o aelodau Seneddol cyn dechrau'r broses adael yr Undeb Ewropeaidd.
Fe fydd modd I Lywodraeth Cymru cael ei ddweud yn yr achos yn y Goruchaf Llys.
Fe fydd 11 o farnwyr sy'n eistedd ar yr apêl sef y rhif fwyaf erioed mewn achos Goruchaf Llys.
Mae Cwnsler Cyffredinol Cymru Mick Antoniw yn dweud wrth Capital:
"Mae diddordeb cyffredinol rhwng y llywodraethau yng Nghymru ac yn yr Alban sy'n eisiau gweld ein system ddemocrataidd yn cael ei chadw. Dyma'r rheswm pam rydyn ni'n cael llais Gymraeg yn ystod y gweithrediadau cyfreithiol heddiw."
"Nad yw hyn am Brexit. Nad yw hyn yn ail refferendwm neu'r dadlau am neu yn erbyn bod yn rhan o'r undeb Ewropeaidd. Mae'r achos hwn am sefyll lan ar gyfer ein democratiaeth yma."
Mae'r Pwyllgor Materion Cymreig yn dweud bod nhw eisiau clywed y farn o bobl yng Nghymru.
Mae Cadeirydd y Pwyllgor David T.C. Davies yn dweud wrth Capital fod rhaid meddwl am lawer o bethau:
"Yn y gorffennol mae'r Undeb Ewropeaidd wedi rhoi arian i bethau fel cynlluniau amaethyddiaeth. Felly mae rhaid i ni feddwl am os dyn ni'n eisiau pethau fel hyn i gael ei rheoli yn Llundain neu gan y Cynulliad yng Nghymru."
"Sut rydyn ni'n eisiau gweld y dyfodol yw'r mater dan gwestiwn. Credaf fod bobl newydd wedi dechrau meddwl am y problemau sy'n gysylltiedig â hyn ac mae'n hynod bwysig bod ni'n wneud hyn yn gywir"