Adam yn arwain Plaid
28 September 2018, 18:05 | Updated: 28 September 2018, 18:13
Dywedodd Adam Price y bydd yn arweinydd "modern, cynhwysol" ar ôl ennill etholiad arweinyddiaeth Plaid Cymru.
Mae'r AC dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi curo'r cyn arweinydd Leanne Wood.
Mae AC Rhondda wedi arwain y Blaid ers 2012 ond dim ond 1286 o bleidleisiau a dderbyniodd, nad oedd yn ddigon i'w wneud i ail rownd y bleidlais.
Sicrhaodd Adam 3481 o bleidleisiau, a daeth AC Môn Rhun ap Iorwerth yn ail gyda 1961.