Pyrderon ynglyn a gwaith ffordd
26 September 2018, 18:19 | Updated: 26 September 2018, 18:20

Ofna y bydd yna rhagor o oedi ar yr A55.
Dywedodd AC Gorllewin Clwyd, Darren Millar, ei fod angen sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd yr amhariad a achosir gan y gwaith ffordd ar yr A55 yn cael ei gadw i 'leiafswm absoliwt'.
Ar hyn o bryd mae modurwyr yn wynebu oedi hir wrth i'r adran tua'r gorllewin o'r A55 gael ei gau ar gyfer atgyweirio pontydd yn Llanddulas.
Mae Darren Millar yn dweud ei fod yn poeni am y lefel o amhariad, gan alw am weithredu i sicrhau y bydd y gwaith yn digwydd trwy gydol y nos trwy gydol y rhaglen.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y gwaith yn cael ei wneud o amgylch y cloc nes bod y prosiect wedi'i orffen.