Galwadau i'r NSPCC yn Cynyddu

21 June 2017, 12:25 | Updated: 21 June 2017, 12:27

Child abuse

Mae adroddiadau o blant yng Nghymru sy'n cael eu camdrin yn emosiynol wedi treblu mewn saith mlynedd, yn ôl ffigyrau gan yr NSPCC.

Mae'r elusen wedi darganfon ers 2009/10 mae'r nifer o alwadau i'r NSPCC gan bobl yn poeni dros blant yng Nghymru wedi cynyddu o 112 i 344 yn 2016/17.

Mae aelodau staff wedi clywed achosion o rieni yn dweud wrth eu plant eu bod nhw'n eu casau, ac yn bygwth eu brifo'n arw.

Mae'r elusen yn dweud bod camdriniaeth emosiynol yn gallu arwain at blant yn teimlo'n dda i ddim, a'r ddatblygiad o broblemau meddyliol fel iselder a theimladau hunanladdol.

Mae Des Mannion, pennaeth NSPCC Cymru, yn dweud:

"Mae'r cynnydd mawr yn y nifer o bobl yn sylwi ac yn adroddi achosion o gamdriniaeth emosiynol yn dangos bod pobl yn barod i weithredu."