Llai o blant yn cael eu harestio

10 September 2018, 07:37 | Updated: 10 September 2018, 08:03

Mae'r nifer o blant sydd wedi cael eu harestio gan Heddlu Gogledd Cymru wedi gostwng 70 y cant yn y saith mlynedd ddiwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae arolwg gan yr elusen 'Howard League for Penal Reform' wedi canfod bod yr heddlu wedi arestio 1,040 o blant dan 17 y llynedd, hynny i lawr o 3,420 yn 2010.

Ledled Cymru a Lloegr, mae'r nifer o blant sydd wedi'u harestio wedi cael ei ostwng 68 y cant - bron i 250,000 yn 2010 i 79,012 llynedd.

Mae'r ffigyrau yn dangos hefyd bod y nifer o ferched sy'n cael eu harestio yn disgyn yn gynt na bechgyn gyda 12,495 yn 2017.