Gangiau trosedd ar gynnydd
19 September 2018, 11:14 | Updated: 19 September 2018, 11:19
Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, mae 267 o bobl wedi'u cysylltu hefo nhw.
Mae'r ffigyrau wedi eu cynnwys mewn adroddiad caiff ei gyflwyno i'r panel heddlu a phlismona wythnos nesaf.
Er gwaethaf hyn, mae'r Comisiynydd yn dweud eu bod nhw wedi cael nifer o lwyddiannau, gydag euogfarnau mewn achosion o lofruddiaeth a 'county lines'. Ar ben hynny, mae arestiadau sylweddol yn ymwneud a chyffuriau.