Swyddi Dan Fygythiad yn y De
Mae cant a hanner o swyddi dan fygwth o gael eu chwalu mewn becws yng Nghasnewydd wrth i'r cwmni ymgynghori ar gau'r safle.
Mae Food Utopia yn dweud eu bwriad oedd dod â ddiwedd i gynhyrchu ym Mecws Avana erbyn diwedd mis Ionawr.
Fe ddeudodd y grwp bod y ffatri yn methu gwneud cynnydd digonol mewn marchnad oedd yn gynyddol gystadleuol.
Dywedodd Food Utopia mewn datganiad y bydden nhw'n parhau i ymchwilio i bob opsiwn posib wrth drafod y dyfodol.