Safonau Dysgu yng Nghymry Angen Gwella
Mae'r adroddiad diweddaraf o'r ymchwilwyr addysg, Estyn, wedi darganfod bod safonau dysgu hefo'r dylwanadau mwyaf ar sut mae pobl yn dysgu, ond mae hi'r adnodd gwanaf wrth ystyried addysg yng Nghymru.
Mae hi'n ymddangos bod diffyg ysgolion sy'n helpu staff i fanteisio ar gyfleon dysgu proffesiynol.
Mae'r adroddiad yn argymell y dylai arweinyddion creu gwell cyfleon i athrawon datblygu'u sgiliau.
Mae'r Uwch-Arolygydd Meilyr Rownlands yn dweud:
"I wella safonau addysg yng Nghymru mae rhaid gwella sgiliau dysgu er mwyn sicrhau effaith hir-dymor ar safonau uchel yn y dosbarth."
Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, yn dweud:
"Mae gwella safonau dysgu ac arweinyddol athrawon ymhlith ein blaenoriaethau. Does neb yn gallu cyhuddo'r Llywodraeth o eistedd lawr a derbyn y sefyllfa bresennol."