Rhyddhad Fideo am Danio'n Fwriadol
Mae Heddlu’r Gogledd wedi rhyddhau ffilm byr yn rhybuddio’r cyhoedd dros y peryglon o danio pethau yn fwriadol.
Mae cipolwg o ‘Llosgi Eich Dyfodol’ wedi cael ei ryddhau arlein o flaenllaw rhyddhad y fideo cyfan gwerth 20 munud.
Daw rhyddhad y fideo ar ol i Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, buddsoddi £10,000 i daclo’r broblem o danio’n fwriadol.
Mae’r fideo yn cynnwys cyfweliadau hefo pobl sydd wedi cael eu cosbi am ddechrau tanau ac hefyd dioddefwyr sydd wedi goroesi ymosodiadau.
Mae’r ymgyrch yn dod wrth i nifer o achosion o danio’n wriadol parhau i ddigwydd yn ardal Wrecsam.
"Ryden ni llawn cyffro hefo enw'r fideo," medda'i Arologydd Simon Kneale, "Mae 'Llosgi Eich Dyfodo' yn egluro'n llwyr sut mae tanio pethau'n fwriadol yn wir gallu difetha bywyd nid yn unig y dioddefwyr ond y person sy'n gyfrifol."
"Mae'r ffilm byd arlein yn gyrru neges hynod pwerus. Mae hi'n gipolwg o'r fideo llawn fydd yn cael ei ryddhau ar gyfer ysgolion ledled Cymru."