Portmeirion yn prynu Kerfoots
20 October 2018, 09:15 | Updated: 20 October 2018, 09:28
Perchnogion newydd siop hanesyddol Porthmadog.
Bu iddi gau ym mis Awst ar ôl 144 o flynyddoedd gyda cholled mwy nag ugain o swyddi.
Mae Portmeirion yn dweud bydd y siop newydd yn agor yn y Gwanwyn.
Mewn datganiad ar dudalen Facebook, meddai'r cwmni:
"Mae'n bleser mawr y gall cyfarwyddwyr Siopau Portmeirion gyhoeddi bod nhw wedi prynu Kerfoots, stryd Fawr Porthmadog.
"Y bwriad fydd ei hagor dan enw Portmeirion yng ngwanwyn 2019 gan weithredu fel siop ar y llawr gwaelod a chaffi ar y llawr cyntaf.
"Ni fydd hyn yn effeithio ar Siop Portmeirion, 51 Stryd Fawr, Porthmadog nac ar Caffi Portmeirion, Stryd Fawr Porthmadog. Bydd nifer o gyfleon am swyddi’n cael eu creu."