Niwed Mawr i Ambiwlans Wedi'r Rygbi
Mae ambiwlans wedi cael eu cymryd oddi ar y ffordd yng Nghaerdydd wedi iddo cael ei niweidio gan berson wedi'i feddwi.
Cafodd ffenest y cerbyd ei dorri gan fotel gan achosi niwed gwerth canoedd o bunnoedd.
Roedd yr ambiwland gyrru lawr Heol Eglwys Fair yn dilyn y gem rhwng Cymru ac Iwerddon nos Wener.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn credu bydd hi'n costio £300 i drwsio'r ffenest.
Roedd Richard Lee yn y cerbyd adeg y digwyddiad, ac yn dweud: "Mae hi'n hynod anghyfrifol i bobl fandaleiddio cerbydau brys o unrhyw fath, ond mae hi'n waeth byth pan mae galw mawr amdano."