Lansiad Ymchwiliad Camdriniaeth Rhywiol ar Blant
26 October 2016, 07:11
Mae Cymru hefo swyddfa arbennig rwan i ganolbwyntio ar ymchwilio methiannau sydd wedi arwain tuag gamdriniaeth rhywiol yn erbyn plant.
Mae’r safle newydd yn agor bore Mercher yng Nghaerdydd ac yn marcio lansiad ymchwiliad lle bydd dioddefwyr a goroeswyr yn gallu rhannu’u brofiadau. Mae Proffesor Alexis Jay, sy’n arwain yr ymchwiliad, yn dweud bydd pob stori yn cael ei adrodd mewn amgylchedd diogel a chyfrinachol.
Mae Chris Tuck, o banel ymgynghorol y dioddefwyr, yn dweud, “Ryden ni’n cydnabod y dewrder sydd angen i rannu profiad o gamdriniaeth rhywiol ond bydd pob stori sy’n cael eu rhannu yn helpu cyfrannu tuag at yr ymchwiliad.”
“Mae dioddefwyr a goroeswyr yn gallu rhannu’u profiadau mewn sesiwn preifat. Bydd cefnogaeth arbenigol ar gael i bob person yn cymryd rhan hefo’r Prosiect Gwirionedd.”
“Mae croeso i bobl troi fyny hefo aelod o’u teulu, ffrind neu unrhyw person arall o’u dewis.”
Dydy’r ymchwiliad heb fydoli heb ddiamheuaeth gyda tair cadeiryddes yn gadael y swydd ers iddo dechrau yn 2014, ond mae Proffesor Jay eisio i’r gwaith cael ei gwblhau erbyn 2020.