Gwrthdrawiad Marwol ar yr A470
13 November 2017, 10:27
Mae’r heddlu’n apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar yr A470 digwyddodd pnawn ddoe.
Am 15:22 hysbyswyd Heddlu Gogledd Cymru gan y Gwasanaeth Ambiwlans am wrthdrawiad un cerbyd a oedd yn cynnwys beic modur ger Dinas Mawddwy.
Daeth Gwasanaethau Brys i’r fan a’r lle. Fodd bynnag, cyhoeddwyd y beiciwr modur yn farw yn y fan a’r lle.
Mae ei berthnasau agosaf wedi’u hysbysu.