Galw am barthau aer glan
21 June 2018, 18:06 | Updated: 21 June 2018, 18:08
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru ymhlith y rhai sy'n galw am barthau aer glan mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru.
Gan ddweud fod yna angen i wahardd ceir hyn sy'n llygru'r amgylchedd mewn rhai llefydd.
Yn ogystal â hynny mae ymgyrchwyr yn galw am ddyfeisiau i fonitro’r aer ym mhob ysgol yng Nghymru.
Yn ôl Steve Brooks o Sustrans Cymru mae yna wir angen am y parthau yma.
' Trafnidiaeth yw'r prif gyfrannwr at lygredd aer felly mae yna angen i ni ystyried sut i lanhau'r aer.'
Rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.