Cymru Yn Cofio

11 November 2018, 08:28 | Updated: 11 November 2018, 08:30

Poppy

Fe fydd distawrwydd yn cael ei gynnal ledled y Deyrnas Unedig am 11 y bore ma.


Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn nodi heddiw ganmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf mewn Gwasanaeth Cenedlaethol o Ddiolchgarwch yn Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Bydd Iarll ac Iarlles Wessex yn bresennol hefyd fel gwesteion y Prif Weinidog. Traddodir yr anerchiad gan Archesgob Cymru, y Parchedicaf John Davies.

Yn ystod y gwasanaeth, caiff y gynulleidfa glywed darlleniadau gan Nia Haf ac Ethan Williams o Urdd Gobaith Cymru a chan Mari Wyn Jones o Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug.

Wrth siarad cyn y gwasanaeth, dywedodd y Prif Weinidog:

"Bob Sul y Cofio, cawn gyfle i dalu teyrnged i ddynion a menywod a wasanaethodd i ddiogelu'r heddwch mae gennym y fraint o'i brofi yma yng Nghymru heddiw.

Mae Sul y Cofio eleni yn arbennig o emosiynol gan ein bod yn nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

Heddiw, rydyn ni'n cofio aberth aelodau'r lluoedd arfog o Gymru.

Rydyn ni hefyd am gofio'r dynion, menywod a phlant dirifedi am eu cyfraniad mor hanfodol gartref gan ddylanwadu ar gymdeithas mewn ffyrdd na wnaeth yr un genhedlaeth cyn hynny.

I'r genhedlaeth ryfeddol hon, rhown ein diolch. Bydd eu cyfraniad a'u gwaddol yn para am byth."