Cyhoeddiad i Wella Cludiant
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith yn cyhoeddi cynlluniau heddiw ar gyfer buddosddiad gwerth biliynau o bunnoedd i wella safonau cludiant ledled Cymru.
Mae Ken Skates yn gosod ei obeithion ar gyfer rhwydwaith modern sy'n helpu cymunedau ym mhob ochr o Gymru.
Mae'r buddosddiad am gynnwys gwelliannau ar gyfer yr M4, A55, A40 a'r A494, datblygiadau ar gyfer metro yn y Gogledd ac yn Ne Cymru, ac hefyd cynlluniau ar gyfer trydydd pont i groesi Afon Menai.
Mae'r buddsoddiad y mwyaf yng Nghymru ers cenhedlaeth.
Yn siarad o flaenllaw'r cyhoeddiad, fe ddeudodd Ken Skates; "Mae'r fuddsoddiad hon yn dangos bod Llywodraeth Cymru o ddifrif ynglyn a chreu system cludiant cystal ag unrhywle arall yn y byd."
"Bydd y rhwydweithiau yn helpu cysylltu pobl a chymunedau i swyddi a gwasanaethau ar draws Cymru cyfan gan wella ein economi yn sylweddol."