Atgoffa'r Cyhoedd o Golled Trwydded

13 April 2017, 10:07 | Updated: 13 April 2017, 10:09

North-Wales-Police-image

Mae gyrrwyr newydd sydd wedi pasio’u prawf yn cael eu hatgoffa eu bod yn wynebu colli eu trwydded os ydynt yn casglu chwe phwynt yn y ddwy flynedd gyntaf.

Daw’r rhybudd wedi i ddynes gael ei stopio yn ardal Caergybi ddoe am fod â theiars diffygiol. Dywedodd wrth swyddogion ei bod â thri phwynt yn barod ar ei thrwydded a’i bod ond wedi pasio ei phrawf fis Hydref diwethaf.

Dywedodd Rhingyll Trystan Bevan o’r Uned Plismona Ffyrdd: “Cynhelir y gwiriadau diogelwch ffyrdd hyn yn rheolaidd gan y tîm. Gwneir hyn er budd a sicrhau diogelwch holl ddefnyddwyr ffordd.

“Cyfrifoldeb cyfreithiol y gyrrwr yw sicrhau fod y cerbyd maent yn ei yrru yn addas i’r ffordd fawr. Bydd y gyrrwr yn derbyn dirwy a phwyntiau ar eu trwydded os oes diffyg ar eu cerbyd. Dylai gwiriadau rheolaidd gynnwys tanwydd, goleuadau, lefelau hylif, teiars a sychwyr ffenestri.

“Hoffem atgoffa gyrwyr newydd os ydych wedi derbyn chwe phwynt ar eich trwydded yrru yn y ddwy flynedd gyntaf wedi pasio’ch prawf, byddwch yn dychwelyd yn ôl i drwydded dros dro ac angen cymryd ail brawf.

“Mae hyn i gyd yn rhan o’n hymroddiad parhaus i gadw’r ffyrdd yn ddiogel i bawb. Cynhelir gwiriadau pellach yn y dyfodol agos.”