AS o Ogledd Cymru i Amddiffyn Dioddefwyr o Drais
Mae Bil am gael ei gyflwyno yn Nhy'r Cyffredin heddiw i roi diwedd i ddioddefwyr o drais yn gorfod rhannu gwybodaeth am eu hanes rhywiol.
Mae'r AS sy'n gyfrifol dros y Bil, Liz Saville Roberts o Ddwyfor Meirionydd, yn gobeithio bydd y newidiadau yn rhoi mwy o hyder i ddioddefwyr i siarad hefo swyddogion ac adroddi achosion o drais.
Cafodd merch o'r enw 'Ivy' ei chyfweld gan Sky News, (MP's bid to stop rape victims being quizzed on sexual history)wedi iddi gael ei threisio gan grwp o ddynion am sawl mlynedd.
Yn 2015 i 2016, credid cafodd merched eu treisio 85,000 o weithiau. Cafodd 35,798 o achosion eu recordio gan heddweision yng Nghymru a Lloegr, ond cafodd ond 2,689 eu dedfrydu.