Parhau Gyda'r Glanhau Yng Nghaergybi

9 March 2018, 17:17 | Updated: 9 March 2018, 17:19

Holyhead Marina Damage

Mae Cyngor Sir Ynys Môn yn dweud ei fod yn cryfhau'r ymdrech i lanhau traetha wedi i Storm Emma ddinistrio'r marina.
 
Hyn wedi i polystyren o'r porthladd effeithio ddeunaw filltir o arfordir yr Ynys.
 
Mae'r Cyngor wedi gofyn i'w gontractwr gwastraff i lanhau’r traethau wedi’u heffeithio ac wedi derbyn cefnogaeth arbenigol i gynnal arolygon o draethau.
 
Gyda'r Prif Weithredwr Gwynne Jones yn dweud y prif flaenoriaeth yw gwarchod arfordir yr Ynys:
 
'Wrth ystyried y wybodaeth gawsom eisoes, a’r gwaith a wnaed gan ein staff Morwrol, mae’n rhaid i ni gasglu a gwaredu'r polystyren yma cyn gynted â phosib.
Mae contractwyr arbenigol Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau eisoes wedi cynnal arolygon o’r traethau er mwyn rhoi darlun cynhwysfawr i ni o ble mae’r polystyren wedi’i olchi i'r lan.'
 
Mae Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau wedi gofyn i'r cyhoedd gadw draw o’r polystyren neu unrhyw sbwriel arall gaiff ei olchi ar ein traethau a gadael i’r arbenigwyr wneud eu gwaith.