Newidiadau Rhoi Gwaed yng Nghymru

2 August 2017, 10:14

A pouch of blood which has been donated

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bydd newidiadau i wneud hi'n haws i ddynion hoyw a deuryw i roi gwaed yn cael ei gyflwyno dechrau blwyddyn nesaf.

Mae rheolau presennol yn golygu tydi dynion methu rhoi gwaed am 12 mis ar ol cael rhyw hefo dyn arall, ond mae'r orhiriad am gael ei leihau i dri mis.

Mae'r newid, cafodd ei gyhoeddi dydd Mercher, yn dilyn cyhoeddiadau tebyg yn yr Alban a Lloegr mis diwethaf.

Fe ddeudodd y Gwenidog Iechyd Cyhoeddus, Rebecca Evans, bod awydd ganddi i sicrhau bod cymaint o bobl a phosib yn gallu rhoi gwaed er mwyn ateb galwadau cleifion Cymraeg.

"Yng Nghymru a gweddill y DU, ryden ni'n lwcus i gael un o'r gyflenwadau mwyaf saff o waed yn y byd.

"Oherwydd datblygiadau positif yng ngwyddoniaeth meddygol, mae gennyn ni gwell dealltwriaeth dros y ffyrdd mewn afiechydon yn cael eu trosglwyddo trwy waed."