"Llwyddiant i Synnwyr Cyffredin"

3 April 2017, 09:50 | Updated: 3 April 2017, 09:55

Online groomer child abuser

Mae ffigyrau'n dangos cynnydd yn y nifer o gamdrinwyr yn trio cwrdd â phlant yng Nghymru ar ôl siarad hefo nhw arlein.

Cafodd 44 o achion eu recordio yn 2011 gan luoedd heddlu Cymru.

Gwelodd Heddlu Dyfed Powys y cynnydd mwyaf rhwng 2011/12 a 2015/16, ond gwelodd Heddlu'r Gogledd lleihad yn yr un amser.

Ymgyrchodd yr NSPCC i wneud hi'n anghyfreithlon i yrru negeseuon o natur rhywiol i blant, a rwan mae gyrru negeseuon o'r fath yng Nghymru yn drosedd, gan wneud hi'n haws i heddweision ymyrru llawer cynt.

Mae Des Mannion o NSPCC Cymru yn dweud;

"Mae hwn yn lwyddiant i'r 50,000 o bobl wnaeth helpu'r NSPCC i newid y gyfraith. Mae hi'n lwyddiant i synnwyr cyffredin."