Hafalrwydd Rhwng y Gymraeg a'r Saesneg

Welsh

Mae meddygon teulu, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr ar draws Gogledd Cymru am dderbyn mwy o help i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr am weithio hefo Menter Iaith, gyda gweithdai eisoes wedi'u cynnal ym Mangor.

Dydy cyflenwyr iechyd fel optegwyr a deintyddion ddim yn cael eu monitro gan Ddedf yr Iaith gymraeg 1993 gan eu bod nhw'n contractwyr annibynnol.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn dweud bod rhaid i'r iaith Gymraeg a Saesneg cael eu trin yn hafal i'w gilydd wrth gynnig gwasanaethau i aelodau'r cyhoedd yng Nghymru.