Galwadau am Fwy o Aelodau Cynulliad

Outside of the Senedd in Cardiff Bay

Mae awgrymiadau newydd ar gyfer Cynulliad mwy effeithiol a chyfrifol wedi cael eu gosod gan Electoral Reform Society Cymru.

Mae adroddiad yn amlinellu saith egwyddor i ail-drefnu’r Senedd, fel symlrwydd a chymesuredd y dylai elguro sut gall Cynulliad mwy cael eu hethol.
Mae’r Cynulliad am dderbyn pwerau I newid eu maint a’u system pleidleisio, yn dibynnu ar Fil Cymru, ond mae angen cytundeb croes-bleidiau oherwydd ond dau traean o Aelodau’r Cynulliad sydd wedi pleidleisio o blaid.
Mae’r cyfarwyddwr dros-dro i Ganolfan Llwydoraeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, Roger Scully, yn dweud:
“Nid oes system perffaith i fodloni pob egqyddor, felly y bwriad yw dod o hyd i gydbwysedd.”
Fe ddeudodd y Swyddog Ymgyrch ac Ymchwil i Electoral Reform Society Cymru, Dr. Owain ap Gareth:
“Mae’r adroddiad yn rhoi’r egwyddorion i bobl yn ogystal a modd i gynnal dadlau positif dros sut gallwn hybu’r Cynulliad i wneud hi’n haws i weithio ar ran y pleidleiswyr.”