Dyma Reolwr Newydd Cymru - Ryan Giggs

15 January 2018, 18:24 | Updated: 15 January 2018, 18:32

ryan giggs

Cafodd cyn seren Manchester United ei gadarnhau fel olynydd Chris Coleman ddydd Llun.
 
Yn siarad yn ei gynhadledd gyntaf yng Nghaerdydd dywedodd ei fod yn "edrych ymlaen at y sialens" o arwain y tîm cenedlaethol.
 
Fe chwaraeodd 64 o weithiau dros ei wlad, ac meddai ei fod yn bwriadu arwain yn yr un ffordd a wnaeth fel chwaraewr a hynny gyda "phroffesiynoldeb" ac "ychydig o hwyl".
 
Tydi Giggs heb fod yn rhan o bêl-droed am 18 mis ers iddo adael staff hyfforddi Old Trafford ar ôl i Jose Mourinho gymryd lle Louis van Gaal yn 2016.
 
Mae'n dipyn o her i ddilyn llwyddiant Chris Coleman a arweiniodd y tîm i'r Euros. Mae'n sylweddoli hefyd nad ydi pawb am groesawu ei benodiad, a'r unig ffordd i wneud hynny yw drwy waith caled a llwyddiant.
 
Mae Giggs dal angen penodi gweddill ei dim.
 
Un o'r enwau sydd wedi cael ei grybwyll yw cyfarwyddwr technegol cymdeithas Pêl-droed Cymru, y gwr o Fôn, Osian Roberts.
 
Meddai Giggs: "Mae 'na sgwrs i'w chael. Be mae Osian wedi gwneud i bêl-droed yng Nghymru dros y blynyddoedd, a fydd yn parhau i wneud yn ei rôl fel cyfarwyddwr technegol...
 
"Dw i'n ei nabod o, dw i'n gwybod sut mae'n teimlo am bêl-droed Cymru, yr angerdd, ac mi wnawn ni siarad yn y dyfodol agos."